Beth yw Spend Cap?
Spend Cap yn hwyluso cyfyngu defnydd o ffôn symudol tu allan i’ch cynllun, wrth gyfyngu gwariant ar grwydro (roaming), negeseuon llun a galwadau rhyngwladol, a helpu i reoli eich bil misol.
Ni fydd yn cyfyngu rhai gwasanaethau - mae rhestr isod. Os byddwch yn agos at eich terfyn gwariant (Spend Cap), byddwch yn derbyn testun gennym.
Werth gwybod
Gallwch addasu eich Spend Cap ar unrhyw amser, gyda chodiadau yn effeithiol yn syth, a gostyngiadau ar ddechrau’r mis bilio nesaf.
Gosod Spend Cap
Gallwch ychwanegu Spend Cap ar eich cyfrif drwy app EE, arlein, testun neu wrth ein galw.
NB: Dim ond cwsmeriaid talu bob mis wedi ymuno neu uwchraddio ar neu ar ôl 1 Hydref 2018 sy’n gallu ychwanegu Spend Cap ar eu cyfrif. Os dechreuodd eich contract cyn y dyddiad hwnnw, gallwch osod rhai cyfyngiadau eraill yn EE online.
Gosod Spend Cap ar app EE
- Agor app EE ar eich ffôn.
- Dewis eich proffeil.
- Dewis Settings and Permissions.
- Rholio i waelod y sgrin a dewis Spend Cap.
- Dewis Edit Amount a gosod eich Spend Cap.
Gosod Spend Cap arlein
- Mewngofnodi ar wefan EE.
- Dewis Plans & Subscriptions, ar dde uchaf eich sgrin.
- Dewis Manage Mobile.
- Rholio lawr y dudalen a dewis Spend Cap.
- Gosod eich Spend Cap.
- Clicio botwm Change cap.
Testun Gosod Spend Cap
Testun SPEND CAP i 150 a dilyn y cyfarwyddiadau neu.
Gosod Spend Cap ar ffôn
Cymorth Gosod Spend Cap - ffonio ni.
Rheoli Spend Cap
Spend Caps am ddim ac yn opsiynol. Gallwch osgoi gosod un, neu gyfyngu defnydd tu hwnt i lwfans misol i £50, £40, £30, £20, £10, neu £0.
Gallwch newid Spend Cap ar unrhyw amser.
Rheoli Spend Caps
Spend Cap yn gallu cyfyngu.
- Galwadau, negeseuon testun a negeseuon llun tu hwnt i lwfans i rifau safonol y DU ac Ewrop
- Costau crwydro Ewrop per dydd
- Galwadau a negeseuon tramor tu hwnt i lwfans o’r DU (IDD)
- Costau mynediad galwadau a negeseuon premiwm - rhifau yn dechrau 09, 118, 083, 084, 085, 087, 070.
- Costau gwyro (divert) galwadau
- Galwadau relai testun
- Galwadau i 123
- Galwadau i wasanaethau bypass 07744 a 07755
- Gwasanaethau peiriant galw (Paging services)
- Galwadau i rifau nid-argyfwng 101
- Galwadau i rifau ffôn lloeren
- Galwadau a negeseuon awyrennau a llongau ee defnyddio ffôn wrth deithio mewn llong.
Cyfyngiadau Spend Cap
Ni fydd Spend Cap yn cyfyngu’r costau hyn ar eich bil symudol
- Tocyn crwydro tramor (Roam abroad)
- Tocyn data teithio (Travel Data Pass)
- Pryniant Data pass
- Pryniant add-ons fel Apple Music, TNT Sports, ychwanegu munudau
- Yswiriant ffôn
- Costau gwasanaethau galwadau a negeseuon premiwm
- Charge to bill services fel defnyddio eich bil symudol fel dull talu App Store neu ymuno â chystadlaethau testun a gwneud rhoddion ariannol
- Codau llais byr (Voice short codes)
- Derbyn negeseuon testun premiwm
- Costau gweinyddol
- Ffioedd taliadau hwyr, neu
- Costau misol rheolaidd fel costau cynlluniau.
Spend Caps ar sawl rhif
Gallwch ychwanegu Spend Caps ar bob rhif ar eich cyfrif EE. Dilynwch y camau uchod i osod Spend Caps ar eich rhifau.
Methu gwneud galwadau/anfon testun?
Os byddwch wedi gosod Spend Cap ac yn methu gwneud galwad neu anfon neges, neu’n colli cysylltiad galwad, efallai bydd y rheswm isod:
- Wedi cyrraedd eich Spend Cap a dim lwfans ar gael i dalu cost galwad neu neges.
- Agos at eich Spend Cap a dim lwfans digonol i dalu cost galwad neu neges.
Byddwn yn anfon neges os bydd hynny’n digwydd, gan ofyn daliwr y cyfrif i gynyddu neu ddileu’r Spend Cap er mwyn parhau i ddefnyddio’r ffôn am weddill y mis bilio.