Olrhain eich archeb
Rhif fy archeb?
Nodwyd eich cyfeirnod archeb 10-12 cymeriad yn yr ebost yn cadarnhau’r archeb. Byddwn yn ei anfon ar ôl i chi osod eich archeb arlein, yn y siop neu dros y ffôn. Os na fydd yn y mewnflwch, edrychwch yn y ffolder sbam neu jync.
Nid yw’r rhif archeb yn gweithio?
Yn y lle cyntaf, gwiriwch y rhif archeb. Mae’n gallu cynnwys rhifau yn unig, neu gyfuniad o rifau a llythyrau. Yna, sicrhewch eich bod wedi defnyddio’r cyfeiriad ebost neu rif ffôn a ddefnyddiwyd wrth osod yr archeb.
Olrhain archebion?
Ar hyn o bryd byddwch ond yn gallu olrhain archebion sy’n cynnwys ffôn talu bob mis. Ac ni fyddwch yn gallu olrhain archebion sy’n cynnwys sawl eitem. Wrth archebu ffôn pay as you go, dyfais arall neu SIM EE yn unig, dylai’r archeb gyrraedd o fewn 48 awr. Cadwch olwg allan am neges SMS neu ebost oddi wrth EE.
Gwneud newidiadau i'ch archeb
Oes modd newid lliw/maint ffôn ar ôl gosod archeb?
Mewn rhai achosion, bydd newid lliw/maint cof ffôn yn golygu gallwn anfon ffôn yn gynharach. Os byddwch wedi archebu mewn siop, ewch nôl i’r siop honno, neu ffoniwch ni i drafod yr opsiynau.
Ni fyddaf adref bryd hynny. Oes modd newid yr amser cyflenwi?
Oes. Byddwn yn anfon neges SMS gyda linc i newid eich amser cyflenwi neu drefnu anfon yr archeb i bwynt cyflenwi lleol.
Oes modd newid cyfeiriad y pwynt cyflenwi?
Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu newid y cyfeiriad ar ôl i chi osod eich archeb.
Cyflwyno'ch dyfais
Dyddiad anfon yr archeb?
Fel arfer byddwn yn anfon eich archeb o fewn 24 awr o gadarnhau’r archeb, ond gan fwyaf bydd yn gyflymach na hynny. Byddwn yn ei anfon gyda chwmni cludiant DPD.
Dyddiad cyflenwi yn 'awaiting confirmation'. Beth yw ystyr hynny?
Weithiau, bydd yn cymryd ychydig oriau i dderbyn dyddiad cyflenwi. Byddwn yn anfon ebost neu SMS i’ch hysbysu o’r dyddiad.
Beth yw 'expected delivery date'?
Gyda rhai archebion, byddwn yn amcangyfrif y dyddiad cyflenwi, gan eich hysbysu o’r dyddiad terfynol ar ebost neu SMS. Bydd eich dyddiad cyflenwi hefyd yn destun newid, yn aml yn dilyn oedi annisgwyl gan gyflenwyr. Byddwch yn amyneddgar - byddwn yn ei drefnu cyn gynted â phosibl.
Cyflenwi ar benwythnos?
Oes, ar ddydd Sadwrn.
Trafod cyflenwi gyda phwy?
Bydd y dudalen olrhain (tracking page) yn dangos manylion diweddaraf eich archeb. Yn anffodus, ni fydd ein staff gwasanaeth cwsmeriaid yn cadw unrhyw fanylion pellach.
Os yw'ch dyfais yn ddiffygiol neu wedi'i difrodi
Os byddwch wedi archebu mewn siop, dewch â’r ffôn, deunydd pacio ac unrhyw ategolion yn ôl i’r siop. Os byddwch wedi archebu arlein neu dros y ffôn, cysylltwch â ni.