Costau galwadau & testun
Ni fydd rhai rhifau yn rhan o’ch cynllun llais, felly wrth alw rhai rhifau penodol byddwch yn talu pris mynediad a phris gwasanaeth. Rhifau hynny yn cynnwys:
- rhifau 070, 084, 087, 09
- 118 (ymholiadau cyfeiriadur - directory enquiries)
- rhifau yn dargyfeirio galwadau i rif arall (oni fydd y rhif yn dechrau 0207 neu 0208)
- galwadau tu allan i Undeb Ewrop (crwydro - roaming)
- prisiau cwmnïau eraill (darparwyr trydydd parti)
- prisiau Premium Rate Services
Yn ogystal, efallai bydd rhaid talu am negeseuon testun nad ydynt yn rhan o’ch cynllun:
- negeseuon llun (yn cynnwys ffotograffau, fideos a delweddau eraill)
- negeseuon testun tu fewn neu du allan yr Undeb Ewropeaidd (sef crwydro - roaming)
- costau testun cwmnïau eraill (darparwyr trydydd parti)
Prisiau negeseuon llun
Nid yw negeseuon llun yn rhan o’ch cynllun safonol a bydd angen talu pris sefydlog am bob neges. Efallai bydd rhai dyfeisiadau yn cyfrif negeseuon testun fel negeseuon llun am eu bod yn cynnwys emoji, mwy na’r cyfanswm cymeriadau dilys neu yn negeseuon testun grŵp.
Bydd y costau ar eich bil yn yr adran photo messages. Eich dyfais, y platfform negeseuon a’r person yn derbyn y neges fydd yn pennu os am gyfrif eich negeseuon yn rhai llun, nid rhai testun. Nid rhwydwaith EE fydd yn gyfrifol. Os byddwch yn anfon llawer o negeseuon fel hyn, efallai bydd yn werth prynu pecyn yn cynnig lwfans bob mis i anfon negeseuon llun am brisiau llai. Gwirio yn:
- agor EE app
- dewis Manage - Plans & Subscriptions
Prisiau & credydau unigol
Ar adegau bydd prisiau a chredydau unigol ar eich bil ffôn misol o dan extra charges. Dyma’r rhai mwyaf cyffredin:
- add-ons data neu roaming pan fyddwch dramor
- pris am o leiaf 2 taliad hwyr
- pris am ddarparu copi o’ch bil
- pris am fethu taliad debyd uniongyrchol neu siec
- ffi yswiriant dros ben – swm cymwys ar eich cais yswiriant yn unol â’r Telerau ac Amodau yswiriant a gwarant estynedig
Efallai bydd pris contract arall yn daladwy, yn cynnwys:
- pris terfynu cynnar - talu hwn os byddwch o fewn eich tymor contract lleiaf a dros 30 diwrnod tan y terfyn. Cyfrifir eich swm o’r dyddiad cysylltu â ni hyd ddiwedd eich tymor lleiaf.
- pris cyfnod rhybudd (notice period charge) - talu hwn os byddwch o fewn 30 diwrnod olaf eich tymor lleiaf, o fewn 30 diwrnod olaf eich cyfnod lleiaf neu du tu hwnt i’w cyfnod. Seiliwyd ar rent llinell 30 diwrnod o’r dyddiad cysylltu â ni i ganslo eich contract.
Costau & credydau dyfeisiadau
Os byddwch wedi uwchraddio neu ddatgloi eich dyfais, neu dalu tuag at ddyfais newydd ar eich cynllun, efallai bydd rhai costau unigol yn ymddangos ar eich bil ffôn misol:
- pris cyflenwi er helpu i dalu costau cyflenwi eich dyfais
- pris offer, fel arfer eich dyfais - ee 'pay monthly iPhone 6 16GB gold' gyda’r swm taladwy am y ddyfais
- pris datgloi dyfais
- credyd offer: os bydd swm yn daladwy i chi tuag at bris eich dyfais
Find out more about understanding your bill after an upgrade.
Costau rhannol
Efallai bydd costau rhannol ar eich bil ffôn os byddwch yn newid eich cyfrif yn ystod eich mis bilio. Byddant yn ymddangos os byddwch wedi:
- uwchraddio
- prynu add-on hanner ffordd drwy’r mis
- newid eich cynllun prisiau neu ddyfais, neu rif ffôn
- newid dyddiad talu eich bil
- ychwanegu llinell ar eich cyfrif (ffôn, tabled, SIM, dongl)
Dyma rai costau rhannol a allai ymddangos ar eich bil ffôn:
- ad-daliad o’ch cynllun neu rif blaenorol (hyd at ddyddiad eich bil)
- pris eich cynllun, rhif neu linell newydd (hyd at ddyddiad eich bil)
- pris eich cynllun, rhif neu linell newydd (cyfartal â mis ymlaen llaw)
Dylai eich cyfnodau talu misol ddychwelyd i’r normal fis nesaf, cyn belled na fydd newidiadau pellach i’r cyfrif.
Blaendaliadau
Efallai byddwn yn gofyn i chi wneud blaendal diogelwch yn dilyn eich gwiriad credyd, er mwyn defnyddio rhwydwaith EE neu actifadu rhai gwasanaethau ar eich cyfrif - mae dau fath o flaendal diogelwch:
- blaendal cofrestru i ymuno ag EE er mwyn actifadu eich cyfrif a defnyddio’r rhwydwaith
- blaendal nodweddion i actifadu rhai gwasanaethau penodol, fel Full Roaming, galwadau rhyngwladol a galwadau prisiau premiwm
Nodir y ddau fath ar eich bil fel 'Deposit for Service'. Byddwn yn ad-dalu eich blaendal yn otomatig drwy eich dull talu arferol ar ôl i chi dalu biliau am gyfnod.