Trosglwyddo rhif i gynllun newydd gyda EE?
Mae’n hawdd. Ar ôl derbyn eich dyfais neu SIM newydd:
- Eich cod PACGalw eich cwmni symudol blaenorol a gofyn am y cod PAC. Os bydd y cod yn para’n actif, byddwch yn gallu cynhyrchu eich cod PAC. Ar ôl ei dderbyn, bydd yn ddilys am 30 diwrnod.Os na fydd y cod yn para’n actif, efallai bydd eich cwmni blaenorol yn caniatáu eich ailgysylltu am gyfnod byr er mwyn darparu’r cod PAC, ond dewis y cwmni fydd hynny.
- Actifadu eich SIM newyddGan fwyaf bydd eich SIM wedi ei actifadu. Os na fydd, dilynwch gyfarwyddiadau’r pecyn SIM.
- Cadw’r rhif gyda’r SIM newydd yn gyfleusEfallai byddwch am ei ddefnyddio tan i’r hen rif drosglwyddo i EE.Defnyddwyr iPhone: Os bydd eich rhif wedi trosglwyddo, efallai bydd angen diweddaru ‘My Number’ ar eich dyfais. Ewch i Settings > Phone > My Number > Insert correct mobile number
- Pan fyddwch yn barod
Angen newid unrhyw beth ar y ffôn cyn trosglwyddo’r rhif?
Bydd yn werth copïo pob un o’ch cysylltiadau wrth:
- copïo’r cysylltiadau o’r SIM i’r ffôn ac ar ôl gwneud hynny, copïo’r cysylltiadau nôl ar y SIM
- neu, wrth ddefnyddio ffôn clyfar, copïo’r cysylltiadau (ac unrhyw gynnwys arall) i’r cwmwl ac ailosod ar eich dyfais newydd.
Sylwch: bydd y camau hyn yn amrywio, yn dibynnu ar eich dyfais.
Pa mor hir i drosglwyddo rhif?
Troslwyddir eich rhif ar y diwrnod gwaith nesaf os byddwch yn cyflwyno’r ffurflen cyn 5.30pm.
Wrth wneud cais ar ôl 5.30pm, ar benwythnos neu ŵyl banc, bydd yn cymryd dau ddiwrnod i drosglwyddo eich rhif.
Cofiwch roi amser i ni ymateb i’ch cais. Er enghraifft, wrth gyflwyno eich manylion am 5.25pm, efallai na fydd digon o amser i ni wneud y gwaith erbyn y diwrnod canlynol. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud ein gorau i drosglwyddo eich rhif yn brydlon.
Need to know
Cofiwch, ni fyddwn yn trosglwyddo rhifau ar wyliau banc.
Trosglwyddo rhif i/o gyfrif busnes?
Proses hawdd, wrth:
- galw 150 o’ch ffôn EE
- neu, galw 07953 966 250 o unrhyw ffôn.
Trosglwyddo rhif a chytundeb i rywun arall?
Os byddwch am drosglwyddo rhif a chytundeb i rywun arall:
- galw 150 o’ch ffôn EE
- neu, galw 07953 966 250 o unrhyw ffôn
Sylwch: bydd rhaid i’r person sy’n derbyn eich cyfrif basio archwiliad credyd.
Iawndal otomatig
Os bydd oedi wrth drosglwyddo eich rhif i EE, efallai bydd iawndal yn daladwy. Ni fydd angen ei hawlio oherwydd byddwn yn ei gredydu ar eich cyfrif. Yn achos biliau misol, bydd yn ymddangos ar y bil nesaf.
Os byddwn yn darparu manylion anghywir wrth i chi drosglwyddo o gwmni arall, efallai bydd iawndal yn daladwy. Os am drafod iawndal, cysylltwch â ni.